BBC HomeExplore the BBC

LLUN
16eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 14 Gorffennaf 2009
Nyatanga yn symud i Bristol City

Mae amddiffynnwr Cymru Lewin Nyatanga wedi ymuno gyda Bristol City o Derby County.

Lewin Nyatanga

Deallir bod y clwb o Ashton Gate wedi talu rhyw £500,000 am y chwaraewr 20 mlwydd oed, gwnaeth 69 ymdangosiad i'r Rams dros pedair blynedd.

"Mae hwn yn gyfnod newydd i mi a dwi'n edrych ymlaen at gael chwarae pêl-droed yn rheolaidd unwaith eto," dywedodd Nyatanga.

Nid yw Nyatanga wedi llwyddo i sicrhau lle rheolaidd yn nhîm cyntaf Derby ac mae wedi treulio cyfnodau ar fenthyg gyda chlybiau eraill.

Treuliodd gyfnodau gyda Sunderland a Barnsley ac mae rheolwr Derby, Nigel Clough, wedi dweud nad yw'n rhan o'i gynlluniau yn Pride Park.

Mae Nyatanga wedi ennill 27 o gapiau dros Gymru ers iddo gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf yn erbyn Paraguay yn 2006.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy