|
Mae Price, sydd wedi bod gyda'r Bees yn ymarfer yn Marbella, yn ymuno ar fenthyg am y tymor o Derby County.
Dechreuodd Price ei yrfa gydag Ipswich Town cyn symud i Derby yn 2007.
Treuliodd gyfnodau ar fenthyg gydag MK Dons a Luton Town y tymor diwethaf.
Mae Price wedi ennill chwe chap dros Gymru ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Cyprus yn 2005.
 |