|
Bu Coyne, sy'n 35 mlwydd oed, yn chwarae i Tranmere yn Adran Un am y ddau dymor diwethaf. "Mae Danny yn golwr gwych," dywedodd rheolwr Middlesbrough, Gareth Southgate. "Mae o wedi chwarae ar y lefel uchaf gyda Chymru ac yn chwaraewr profiadol iawn." Cychwynnodd Coyne ei yrfa gyda Tranmere yn 1992, cyn symud i Grimsby yn 1999 gan chwarae dros 200 dros bedair blynedd. Ymunodd gyda Chaerlŷr yn Uwch Gynghrair Lloegr yn 2003, ond pum gêm yn unig y chwaraeodd cyn cael ei werthu i Burnley flwyddyn yn ddiweddarach am £25,000. Wedi tri thymor gyda'r Clarets, dychwelodd i Tranmere yn 2007. Mae Coyne wedi ennill 16 cap dros Gymru, gyda'i ymddangosiad olaf i'w wlad yn dod yn Hydref 2007.
 |