|
Roedd cytundeb y chwaraewr 29 oed gyda Newcastle United wedi dirwyn i ben fis diwethaf ac roedd sawl clwb yn awyddus i'w arwyddo. Treuliodd cyn chwaraewr Lerpwl a Real Madrid y diwrnod yn trafod telerau personol gyda swyddogion y clwb cyn pasio prawf meddygol. "Mae hwn yn gyfle gwych i mi," meddai Owen, sydd wedi sgorio 40 gôl mewn 89 o gemau dros Loegr. "'Dwi'n edrych ymlaen at gael body n chwaraewr Manchester United ac yn ffodus fy mod yn adnabod nifer o'r chwaraewyr sydd yma yn barod. "Hoffwn ddiolch i Syr Alex [Ferguson] am ddangos ffydd ynof ac fe allwn ei sicrhau y byddwn yn ei dalu'n ôl gyda fy ngoliau a fy mherfformiadau."
 |