BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 01 Gorffennaf 2009
Ramsey yn ymrwymo i'r Gunners

Mae Aaron Ramsey wedi cael ei wobrwyo gyda chytundeb newydd "hirdymor" gydag Arsenal.

Aaron Ramsey

Arwyddodd y Cymro 18 mlwydd oed i'r Gunners llai na blwyddyn yn ôl wrth symud o Gaerdydd am £5m.

Dywedodd rheolwr y Gunners, Arsene Wegner, bod y Cymro 18 mlwydd oed wedi gwneud cyn argraff yn ystod ei dymor gyntaf gyda'r clwb.

"'Da ni wrth ei bodd bod Aaron wedi arwyddo cytundeb hirdymor newydd," meddai Wegner.

"Fe wnaeth o gyfrannu'n dda y tymor diwethaf gan ddangos ei fod o'n chwaraewr deallus o safon uchel. Ac yntau dal dim ond yn 18 mlwydd oed, 'da ni'n edrych ymlaen at ei weld yn datblygu gyda ni dros y blynyddoedd nesaf."

Chwaraeodd Ramsey, sy'n enedigol o Gaerdydd, naw gwaith yn yr Uwch Gynghrair a chwe gwaith yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor diwethaf.

Sgoriodd ei gôl gyntaf yn y fuddugoliaeth oddi cartref o 5-2 yn erbyn Fenerbahce ym mis Hydref.

Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, enillodd ei gap gyntaf i Gymru wrth chwarae yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Denmarc.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy