|
Mae enw Ricketts wedi cael ei grybwyll fel chwaraewr y gall Portsmouth arwyddo cyn dechrau'r tymor newydd. "Does dim rhaid i unrhyw chwaraewr adael ond mae 'na bosibilrwydd bydd rhai yn symud," meddai Brown. "Mae 'na ddiddordeb mewn sawl chwaraewr ar sail be gwnaetho ni'r llynedd." Chwaraeodd Ricketts, sydd wedi ennill 33 cap dros Gymru, 25 o gemau i Hull yn eu tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair y tymor diwethaf. Fe dreuliodd dwy flynedd gydag Abertawe wedi i Kenny Jackett ei arwyddo o Telford United yn 2004.
 |