|
Roedd cyn hyfforddwr Israel yn gyfarwyddwr pêl-droed cyn i Jose Mourinho adael y clwb fore Iau, ac mae'r BBC wedi cael ar ddeall y bydd Grant yn cael ei benodi'n rheolwr parhaol.
Mae'r gŵr 52-mlwydd-oed yn un o ffrindiau pennaf perchennog Chelsea, Roman Abramovich, ac roedd ei benodiad yn ystod yr haf wedi codi gwrychyn Mourinho.
> Mourinho yn gadael Chelsea
Roedd Mourinho wedi dweud wrth Grant am beidio ag ymyrryd ym musnes y tîm ond cryfhawyd sefyllfa'r gŵr o Israel ymhellach wrth iddo gael sedd ar y bwrdd.
Grant oedd yn arwain Israel pan ddaethon nhw o fewn trwch blewyn i gyrraedd Cwpan y Byd 2006 ac mae o hefyd wedi hyfforddi clybiau Maccabi Tel-Aviv a Maccabi Haifa.
Ond awgrymodd golygydd pêl-droed BBC Cymru, Ian Gwyn Hughes, nad oedd Grant yn enw ddigon mawr i blesio cefnogwyr Chelsea.
"Bydd cefnogwyr Chelsea'n ysu i gael enw mawr. Maen nhw eisoes wedi clywed enwau fel Didier Deschamps, Guus Hiddink a Fabio Capello yn cael eu crybwyll," meddai.
"Mae (Grant), oedd yn gyfarwyddwr pêl-droed yn Portsmouth cyn symud i Chelsea, yn gyfaill mawr i Abramovich.
"Roedd 'na sôn pan aeth o i Chelsea y byddai o'n fygythiad i Mourinho pe na fyddai pethau'n mynd yn dda."
 |