BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
29ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 20 Medi 2007
Mourinho yn gadael Chelsea

Mae Jose Mourinho wedi synnu'r byd pêl-droed wrth iddo adael Chelsea yn dilyn cyfarfod brys yn Stamford Bridge i drafod y dechrau siomedig maen nhw wedi cael y tymor yma.

Ymunodd Mourinho, 44, efo Chelsea ym mis Mehefin 2004 gan ennill pencampwriaeth yr Uwchgynghrair yn ei ddau dymor cyntaf wrth y llyw.

Ond mae hi wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar nad yw ei berthynas efo perchenog y clwb, Roman Abramovich, wedi bod yn fêl i gyd.

Mae Adran Chwaraeon y BBC wedi cael ar ddeall mai cyn hyfforddwr Israel, Avram Grant, ddaeth i'r clwb yn ystod yr haf fel cyfarwyddwr pêl-droed, fydd yn cymryd yr awenau.

"Bydd cefnogwyr Chelsea'n ysu i gael enw mawr. Maen nhw eisoes wedi clywed enwau fel Didier Deschamps, Guus Hiddink a Fabio Capello yn cael eu crybwyll," meddai.

"Mae (Grant), oedd yn gyfarwyddwr pêl-droed yn Portsmouth cyn symud i Chelsea, yn gyfaill mawr i Abramovich.

"Roedd 'na sôn pan aeth o i Chelsea y byddai o'n fygythiad i Mourinho pe na fyddai pethau'n mynd yn dda."

Cafodd gohebydd pêl-droed BBC Radio 5live, Jonathan Legard, ar ddeall fod Mourinho wedi tecstio sawl un o'r chwaraewyr, gan gynnwys y capten, John Terry, i ddweud ei fod yn gadael.

Yn y cyfamser, cafodd prif weithredwr y clwb, Peter Kenyon, y cadeirydd, Bruce Buck, a chyfaill agos Abramovich, Eugene Tenenbaum, eu galw i Stamford Bridge i drafod y sefyllfa.

A chafwyd cadarnhad ar wefan Chelsea: "Mae Clwb Pêl-droed Chelsea a Jose Mourinho wedi cytuno i wahanu heddiw (dydd Iau)."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy