gan Gary Pritchard
Bydd Ryan Giggs yn gobeithio ymuno â chlwb ecsgliwsif iawn ar ddiwedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn.
Yn dilyn anaf i Gary Neville, y Cymro sydd â'r fraint o arwain Manchester United i'r maes i herio Chelsea yn Wembley.
Ond dim ond saith arall o Gymru sydd wedi arwain eu tîm i fuddugoliaeth yng Nghwpan FA Lloegr ers y rownd derfynol gyntaf un ym 1872.
Kevin Ratcliffe, capten Everton, oedd y diwethaf i gerdded i fyny grisiau'r 'hen' Wembley yn ôl ym 1984, ond mae'n siŵr nad oes llawer yn gwybod pwy oedd y Cymro cyntaf i godi'r tlws.
Yn ôl ym 1901, llwyddodd Tottenham Hotspur o Gynghrair y De i drechu Preston North End, Bury, Reading a West Bromwich Albion er mwyn cyrraedd y rownd derfynol yn Crystal Palace.
Ar ôl gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Sheffield United, llwyddodd Spurs i ennill y gêm ailchwarae 3-1 yn Burnden Park, Bolton a'r Cymro, John Leonard Jones - Jack i'w ffrindiau - gafodd y fraint o godi'r tlws.
Tair blynedd yn ddiweddarach roedd Cymro arall yn arwain ei dîm i fuddugoliaeth wrth i Billy Meredith rwydo unig gôl y gêm i Manchester City yn erbyn Bolton Wanderers yn Crystal Palace.
Fred Keenor oedd y capten cyntaf i godi'r tlws yn Wembley ac hefyd yr unig gapten i gludo'r cwpan dros Glawdd Offa ar ôl i Gaerdydd drechu Arsenal ym 1927.
Bu rhaid disgwyl tan 1955 cyn i Gymro arall gael y cyfle i godi'r tlws wrth i Roy Paul arwain Manchester City yn erbyn Newcastle.
Ond roedd siom i Paul a City wrth i Jimmy Meadows orfod gadael y maes ag anaf wedi 17 munud yn unig a gan bod hyn yn y dyddiau cyn bod eilyddion yn cael eu caniatáu felly bu rhaid i City chwarae'r gêm â 10-dyn cyn colli 3-1.
Roedd y Cymro o Don Pentre yn benderfynol o ddychwelyd i'r Stadiwm i wneud yn iawn am y siom ac fe gadwodd at ei air wrth i City drechu Birmingham 3-1 y flwyddyn ganlynol.
Ym 1968 llwyddodd Graham Williams i godi'r cwpan wedi i Jeff Astle rwydo unig gôl y gêm i West Bromwich Albion yn erbyn Everton.
Peter Rodrigues oedd y chweched Cymro i godi'r tlws wrth i dîm Southampton, o dan arweiniad Lawrie McMenemy, synnu'r byd pêl-droed a threchu Manchester United 1-0 ym 1976.
Bydd modd clywed os bydd Giggs yn ymuno â'r criw dethol yma o Gymry ar raglen Camp Lawn ar BBC Radio Cymru wrth i Ian Gwyn Hughes, Malcolm Allen ac Iwan Roberts ddisgrifio'r holl gyffro yn fyw o Wembley.