BBC HomeExplore the BBC

LLUN
13eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 03 Chwefror 2007
Gohirio gemau'r Eidal oherwydd trais

Mae Ffederasiwn Pêl-droed Yr Eidal (FIGC) wedi gohirio gemau pêl-droed am gyfnod amhenodol wedi i blismon gael ei ladd mewn gêm Serie A rhwng Catania a Palermo.


Bu farw Filippo Raciti wrth i gefnogwyr frwydro yn ystod darbi Sicily.

Mae'r FIGC wedi gohirio pob un gêm broffesiynol ac amatur penwythnos yma ac maent wedi canslo gêm gyfeillgar Yr Eidal â Romania nos Fercher.

Dywedodd y comisiynydd, Luca Pancalli: "Nid yw'r hyn rydym wedi ei weld heno unrhywbeth i'w wneud â phêl-droed, felly mae pêl-droed Yr Eidal yn dod i stop."

Yn ôl adroddiadau, cafodd Raciti, 38, ei daro gan fom bychan wrth iddo geisio delio â'r brwydro tu allan i'r stadiwm.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty ond bu farw o'i anafiadau.

Roedd Pancalli wedi rhybuddio yn gynharach yn yr wythnos bod achosion o drais yn ystod gemau pêl-droed y wlad yn broblem enfawr.

"Nid yw [gohirio'r gemau] am ddiwrnod yn ddigon," ychwanegodd Pancalli. "Heb fesurau llym, ni fyddwn yn gallu chwarae eto.

"Byddwn yn sefydlu comisiwn yn syth i drafod y sefyllfa. Mae'n amhosib i ni barhau fel hyn."

Roedd y gêm rhwng Catania, sydd yn bumed yn Serie A, a Palermo, sydd yn drydydd, wedi cychwyn yn gynnar nos Wener yn dilyn cyngor gan yr heddlu.

Cyn y gêm, cafwyd munud o dawelwch yn dilyn marwolaeth swyddog, Sammartinese - un o glybiau'r is-gynghreiriau - penwythnos diwethaf.

Ond bu'n rhaid oedi wedi hanner awr o'r gêm wedi'r chwaraewyr cael eu heffeithio gan nwy dagrau oedd yn cael ei ddefnyddio gan yr heddlu y tu allan i'r stadiwm.

Dywedodd asiantaeth newyddion ANSA fod yr ymladd wedi dechrau gan nad oedd cefnogwyr Palermo yn gallu cael mynediad i faes Stadio Massimino tan yr ail hanner.

Wedi'r gêm, parhaodd yr ymladd a'r brwydro ar y strydoedd y tu allan i'r stadiwm gyda bron i 100 o bobl yn cael eu trin am anafiadau a chredir bod plismon arall yn dioddef ag anafiadau difrifol.

Ymatebodd prif weithredwr clwb Catania, Pietro Lo Monaco, i'r newyddion o farwolaeth y swyddog trwy ddweud ei fod am adael pêl-droed.

"Rwyf wedi clywed bod swyddog heddlu wedi marw," meddai. "Nid oes unrhyw bwrpas sôn am bêl-droed ar hyn o bryd . Dyma'r diwedd i mi. Rwyf am adael y byd pêl-droed."

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy