BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 17 Tachwedd 2006
Ferenc Puskas yn marw yn 79

Mae cyn seren Hwngari a Real Madrid, Ferenc Puskas, wedi marw yn 79-mlwydd-oed.

Bu farw Puskas, oedd wedi treulio chwe blynedd yn yr ysbyty yn dioddef o glefyd Alzheimer, yn Budapest am 0600 GMT ddydd Gwener wedi iddo ddioddef o pneumonia.

Arweiniodd Puskas dîm euraidd Hwngari yn ystod y 1950au cyn iddo gymryd dinasyddiaeth Sbaenaidd, a llwyddodd i ennill Cwpan Ewrop ar dair achlysur â Real Madrid.

Rhwydodd Puskas 83 gôl mewn 84 gêm i Hwngari rhwng 1945 a 1956 a chwaraeodd dros Sbaen yng Nghwpan y Byd 1962.

FERENC PUSKAS
Geni: 2 Ebrill 1927, Bwdapest, Hwngari
Clybiau: Kispest Honved (354 gêm, 357 gôl) a Real Madrid (528 gêm, 512 gôl)
Gwobrau: Cynghrair Hwngari (5), Cynghrair Sbaen (5), Cwpan Sbaen, Cwpan Ewrop (3), Cwpan Rhyngyfandirol, Medal Aur Olympaidd.
Wedi arwain Hwngari i fedal aur yng Ngemau Olympaidd 1952, roedd yn rhan o dîm enwog y Mighty Magyars drechodd Lloegr 6-3 ym 1953 - y tîm cyntaf o dramor i ennill yn Wembley.

Wedi llwyddo i chwalu Gorllewin yr Almaen 8-3 yn y rownd agoriadol, roedd Hwngari, oedd heb golli gêm ers pedair blynedd ac yn bencampwyr y Gemau Olympaidd, yn ffefrynnau clir ar gyfer Cwpan y Byd 1954 yn Y Swistir.

Ond er iddynt fynd 2-0 ar y blaen yn gynnar yn y rownd derfynol, llwyddodd Max Morlock a Helmut Rahn (2) i sicrhau buddugoliaeth annisgwyl i'r Almaenwyr mewn gêm sy'n cael ei hadnabod fel Das Wunder von Bern (Gwyrth Bern).

Ymunodd Puskas â Real Madrid ac roedd yn aelod allweddol o'r tîm gipiodd llu o bencampwriaethau Sbaen a chwpanau Ewrop.

Rhwydodd bedair gôl wrth i Real chwalu Eintracht Frankfurt 7-3 mewn gêm arbennig yn rownd derfynol Cwpan Ewrop ar Barc Hampden ym 1960.

Rhwydodd 512 gôl i Real mewn 528 gêm ac ym 1962 daeth yn ddinesydd o Sbaen mewn pryd i chwarae dros ei wlad fabwysiedig yng Nghwpan y Byd 1962.

Wedi ymddeol ym 1967 ymunodd â'r byd hyfforddi a llwyddodd i arwain Panathanaikos o Wlad Groeg i rownd derfynol Cwpan Ewrop 1971.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy