Arbedodd y Sbaenwr tri chic o'r smotyn i sicrhau fod Lerpwl yn codi'r gwpan er nad oedd y Cochion wedi arwain yn ystod y 120 munud blaenorol. Roedd West Ham wedi mynd ar y blaen â gôl trwy ei rwyd ei hun gan Carragher ac ergyd Dean Ashton cyn i Djibril Cisse a Steven Gerrard ddod â Lerpwl yn gyfartal.
Aeth yr Hammers yn ôl ar y blaen â gôl hynod gan Paul Konchesky wrth i'w groesiad o'r chwith hedfan dros ben Reina ac i gefn y rhwyd, ond, gyda eiliadau'n weddill cafwyd gôl fendigedig gan Gerrard i orfodi amser ychwanegol.
Ni chafwyd gôl yn yr hanner awr ychwanegol ac mae'n bechod garw bod rhaid gwahanu'r ddau dîm â chiciau o'r smotyn yn dilyn gêm cystal.
Nid oedd y chwarter awr agoriadol yn arwydd o'r hyn oedd i ddod wrth i'r naill dîm na'r llall brofi'r golwyr, ond roedd y Stadiwm yn ferw gwyllt wedi 20 munud wrth i West Ham fynd ar y blaen.
Llwyddodd Yossi Benayoun, y gŵr cyntaf o Israel i chwarae yn y rownd derfynol, i ganfod Dean Ashton â throdd yr ymosodwr y bêl dros yr amddiffyn a bwydo Scaloni ar yr asgell dde.
Croesodd yr Eidalwr ar draws y cwrt bach ac wrth geisio rhwystro Marlon Harewodd, trodd Carragher y bêl i'w rwyd ei hun.
Dyblwyd mantais yr Hammers wyth munud yn ddiweddarach wrth i Ashton fanteiso ar gamgymeriad erchyll gan Reina rhwng y pyst i Lerpwl.
Methodd y Sbaenwr ddal ei afael ar ergyd Matthew Etherington ac Ashton oedd y cyntaf i ymateb gan sicrhau fod cefnogwyr yn eu seithfed nef.
Tra roedd cefnogwyr West Ham yn dal i ddathlu, cawsant rybudd wrth i Crouch rwydo o gic rhydd Gerrard, ond yn ffodus i'r tîm o Ddwyrain Llundain roedd fflag y llumanwr yn yr awyr.
Ond llwyddodd Cisse i gwtogi mantais yr Hammers wedi 32 munud â chwip o foli o groesiad Gerrard.
Wedi'r egwyl cafodd West Ham gyfle i ymestyn eu mantais ond llwydd Reina i wneud yn iawn am ei gamgymeriad yn yr hanner cyntaf wrth arbed yn wych o draed Harewood a Benayoun
Yna, naw munud wedi'r egwyl, roedd Lerpwl yn gyfartal wedi Gerrard daro taran o ergyd i gornel uchaf y rhwyd.
'Doedd dim gobaith i Shaka Hislop yn y gôl i West Ham wrth i gapten Lerpwl fanteisio ar beniad Peter Crouch a thanio ergyd rymus i gornel ucha'r rhwyd.
Gwrthododd West Ham ag ildio ac o fewn 10 munud, roedd yr Hammers yn ôl ar y blaen, er, ni fyddai unrhyw un yn y stadiwm yn credu fod Konchesky wedi golygu canfod cefn y rhwyd â'i groesiad o'r chwith.
Ond gyda'r gêm yn prysur ddirwyn i ben a chyda I'm forever blowing bubbles yn atseinio ar draws y stadiwm, synnwyd cefnogwyr yr Hammers â gôl ryfeddol gan Gerrard.
Llwyddodd Gabbidon i benio croesiad John Arne Riise'n glir ond i gapten Lerpwl daro ergyd wefreiddiol o 30 llath i gornel isaf y rhwyd i ddod â Lerpwl yn gyfartal unwaith eto a gorfodi amser ychwanegol.
Aeth Riise, Sammy Hyypia a Fernando Morientes yn agos i Lerpwl yn hanner awr ychwanegol cyn i Nigel Reo-Coker orfodi Reina i wneud arbediad campus yn yr eiliadau olaf.
Trodd y golwr beniad capten West Ham yn erbyn y postyn a methodd Harewood, oedd wedi treulio pum munud yn hercian o amgylch y maes, i daro ergyd ar gôl.
A'r Sbaenwr oedd yr arwr wrth arbed ciciau Bobby Zamora, Konchesky ac Anton Ferdinand o'r smotyn i sicrhau buddugoliaeth i Lerpwl.
Lerpwl: Reina, Finnan, Carragher, Hyypia, Riise, Gerrard, Alonso, Sissoko, Kewell, Cisse, Crouch.
Eilyddion: Dudek, Kromkamp, Hamann, Morientes, Traore.
West Ham: Hislop, Scaloni, Ferdinand, Gabbidon, Konchesky, Benayoun, Fletcher, Reo-Coker, Etherington, Ashton, Harewood.
Eilyddion: Walker, Dailly, Sheringham, Collins, Zamora.
Dyfarnwr: A Wiley (Sir Stafford)