Dywedodd Ratcliffe fod y drefn anghyfreithlon yma'n digwydd y aml iawn yn y Gynghrair Bêl-droed - datganiad sy'n cefnogi honiadau rheolwr Luton, Mike Newell, sydd wedi synnu'r byd pêl-droed wythnos yma.
"Ni dderbyniais unrhyw beth, ond cefais gynnig rhywbeth petai trosglwyddiad yn digwydd," meddai Ratcliffe wrth Adran Chwaraeon BBC.
"Ond credwch fi pan rwy'n dweud nad oedd werth peryglu fy ngyrfa dros y cynnig ac yn y diwedd, ni ddigwyddodd y trosglwyddiad."
Mae Newell, cyfaill agos i Ratcliffe a chyn cyd-chwaraewr ag ef yn Everton, yn dweud ei fod yn fodlon rhoi enwau'r asiantau sydd wedi ceisio ei lwgrwobrwyo.
Dywedodd rheolwr Caerdydd, Dave Jones, a rheolwr Abertawe, Kenny Jackett, nad oedd neb erioed wedi ceisio eu llwgrwobrwyo.
Ond cyfaddefodd rheolwr Wrecsam, Denis Smith, ei fod ef wedi cael cynng llwgrwobr yn y gorffennol.
"Rwyf wedi bod o gwmpas ers amser maith a rwyf wedi cael derbyn [llwygrwobr] tra roeddwn efo Sunderland," meddai wrth Adran Chwaraeon BBC Cymru.
"Roedd hynny gan asiant o dramor, ond gwrthodais y cynnig ac ni chafodd y chwaraewr ei drosglwyddo.
"Mae yna lot fawr o arian ar y lefel uchaf o bêl-droed, a phan mae hynny'n digwydd mae amryw un yn siwr o geisio cymryd tamed.
"Nid yw'n rhywbeth sydd yn digwydd mor amal ac y byddai rhai pobl eisiau, ond mae'n digwydd," ychwanegodd.
Roedd Ratcliffe llawn edmygedd fod Newell wedi gwneud ei ddatganiadau, ond roedd yn poeni byddai ei onestrwydd yn amharu ar ei yrfa fel rheolwr.
Ac mae'n amau'n gryf os fydd unrhyw ymchwiliad gan yr FA yn datgelu tystiolaeth o lwgrwobrwyo.
"Rwyf wedi fy synnu bod unrhyw reolwr yn dod allan â hyn, ond gyda'r ffenestr drosglwyddo ar agor rwy'n credu ei fod o [Newell] wedi cael ambell i rwystr wrth arwyddo chwaraewyr," meddai Ratcliffe, ddechreuodd ei yrfa rheoli yng Nghaer ym 1995 cyn symud i Amwythig pedair blynedd yn ddiweddarach.
"Mae'n siŵr ei fod yn rhwystredig ei fod methu arwyddo ambell i chwaraewr gan fod rhai pobl eisiau 'bung'.
"Rwy'n credu ei fod yn digwydd trwy'r cynghreiriau, ond yn amlwg mae pawb yn edrych tua'r brig ac yn meddwl beth fydd yn digwydd."
Dywedodd Ratcliffe, sydd heb fod yn rheolwr ers ymddiswyddo o Amwythig yn 2003, nad oedd unrhyw reswm i amau honiadau Newell.
"Mae'n dweud pethau heb feddwl ar adegau, ond nid oes unrhyw reswm i amau eu honiadau.
"Fe all amharu ar ei yrfa gan fod asiantau yn gweithio ar ran cadeiryddion clybiau pêl-droed hefyd.
"Mae'n ddewr iawn yn gwneud hyn. Mae angen tystiolaeth gadarn iawn i brofi honiadau tebyg ac rwy'n siŵr bydd cadeiryddion, rheolwyr ac asiantau yn sefyll gyda'i gilydd."