BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
14eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 09 Rhagfyr 2005
Dennis i wynebu Lloegr

Bydd Dennis Lawrence a Trinidad & Tobago yn wynebu Lloegr yng Nghwpan y Byd 2006 yn Yr Almaen wedi'r enwau ddod allan o'r het yn Leipzig nos Wener.


Yn ogystal â Lloegr bydd amddiffynnwr Wrecsam a'i gyd chwaraewyr yn wynebu Paraguay a Sweden.

Cyfaddefodd Lawrence cyn i'r enwau ddod allan o'r het nad oedd yn poeni pwy fyddai'n herio'r Socca Warriors gan eu bod mor falch i fod yna.

Lawrence sgoriodd y gôl fuddugol yn ail gymal eu gêm ail gyfle â Bahrain er mwyn sicrhau fod Trindad & Tobago yn camu ymlaen i rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes.

Ac meddai Lawrence: "Rydym wrth ein boddau fod yno felly nid ydym yn poeni pwy fydd ein gwrthwynebwyr.

Ond roedd yn ymwybodol iawn fod gwledydd eraill yn gobeithio bod yn yr un grŵp â Trinidad & Tobago gan eu bod yn cael eu hystyried fel gwlad wan.

"Bydd timau eraill yn edrych ar (Trindad) ac yn meddwl 'dyna driphwynt hawdd', ond yn amlwg byddwn ni yn gobeithio eu profi'n anghywir.

"Mae gennym garfan dda a byddem yn gwneud ein gorau glas."

Bydd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn cychwyn yn Yr Almaen ar 9 Mehefin 2006 gyda'r rownd derfynol yn Berlin ar 9 Gorffennaf.


Grŵp A
Yr Almaen
Costa Rica
Gwlad Pwyl
Ecuador

Grŵp B
Lloegr
Paraguay
Trinidad & Tobago
Sweden

Grŵp C
Yr Ariannin
Cote D'Ivoire
Serbia & Montenegro
Yr Iseldiroedd

Grŵp D
Mecsico
Iran
Angola
Portiwgal

Grŵp E
Yr Eidal
Ghana
America
Y Weriniaeth Siec

Grŵp F
Brasil (deiliaid)
Croatia
Awstralia
Japan

Grŵp G
Ffrainc
Swistir
De Corea
Togo

Grŵp H
Sbaen
Iwcrain
Tunisia
Saudi Arabia

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy