|
Sgoriodd cyn chwaraewr dan21 Lloegr saith gôl mewn pedair gêm gynghrair i'r Adar Gleision yn ystod mis Hydref. Uchafbwynt y mis i Whittingham oedd yr hat-tric sgoriodd i Gaerdydd yn eu buddugoliaeth o 4-3 oddi cartref yn Sheffield United. Fe sgoriodd ddwywaith yn y fuddugoliaeth yn Watford yn gynharach yn y mis ac fe rwydodd yn y gemau yn erbyn Coventry a Crystal Palace.
Yr oedd amddiffynnwr Abertawe Alan Tate ymysg y chwaraewyr oedd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Chwaraewr y Mis Pencampwriaeth Coca-Cola.
 |