BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
19eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 02 Tachwedd 2009
Chopra yn difaru'r cerdyn melyn

Dywed prif sgoriwr Caerdydd Michael Chopra ei fod yn hynod siomedig y bydd yn colli'r gêm ddarbi yn erbyn Abertawe ddydd Sadwrn.

Michael Chopra yn derbyn cerdyn melyn yn erbyn Nottingham Forest
Gwelodd yr ymosodwr gerdyn melyn am y bumed tro o'r tymor yn ystod y gêm gyfartal gyda Nottingham Forest ddydd Sul ac felly'n gorfod methu'r gêm nesaf.

"Dwi wedi fy siomi'n arw," meddai Chopra, sgoriodd yn erbyn yr Elyrch yn y gêm gyfartal 2-2 ar Barc Ninian y tymor diwethaf. "Dyma'r gemau 'da chi eisiau chwarae ynddyn nhw.

"Mae gemau lleol yn golygu dipyn i mi gan fy mod i'n dod o ardal Newcastle a dwi wedi chwarae mewn cymaint o gemau fel hyn - dwi'n meddwl fy mod wedi chwarae mewn saith y tymor diwethaf.

"Dwi wedi chwarae yn erbyn y ddau o dîm o Fryste y tymor yma ac mae colli'r gêm yn erbyn Abertawe yn dipyn o ergyd."

Chopra yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth gyda 11 gôl, ond mae gan Gaerdydd opsiwn naturiol i gymryd ei le, sef yr Albanwr Ross McCormack.

Ac ychwanegodd Chopra ei fod yn hyderus y bydd McCormack - sydd wedi colli rhan helaeth o'r tymor gydag anaf - yn gwneud yn fawr o'i gyfle.

"Mae yna fwy i'r tîm nag un chwaraewr," meddai. "Mae yna nifer o chwaraewyr sy'n eistedd ar y fainc ac yn ysu i gael cymryd lle rhywun.

"Ond y peth pwysicaf yw ein bod yn mynd i Abertawe ac yn chwarae ein gêm naturiol a gobeithio nawn ni ennill y tri phwynt."

Roedd dau o chwaraewr Abertawe o fewn un cerdyn melyn at waharddiad, ond llwyddodd Angel Rangel ac Alan Tate i orffen y gêm yn erbyn Scunthrope ddydd Sadwrn heb fynd i lyfr y dyfarnwr.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy