BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 11 Gorffennaf 2009
Caerdydd yn cychwyn mewn steil

Llwyddodd Caerdydd i ddechrau cyfnod newydd yn eu hanes drwy ennill y gêm gyntaf i'w chwarae yn eu cartref newydd.

Jay Bothroyd yn dathlu'r gôl gyntaf yn stadiwm newydd Caerdydd

Jay Bothroyd gafodd yr anrhydedd o sgorio'r gôl gyntaf i Gaerdydd yn y stadiwm newydd, sydd o fewn tafliad carreg i hen nyth yr Adar Gleision, Parc Ninian.

Sgoriodd Michael Chopra cyn yr hanner, gyda'r chwaraewyr ifanc Josh Magennis ac Adam Matthews yn cwblhau buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Chasetown wedi'r toriad.

Y newydd ddyfodiad Mark Hudson oedd capten yr Adar Gleision wrth iddo chwarae wrth ochr Gabor Gypes yng nghanol yr amddiffyn o flaen torf o ychydig dros 5,000.

"Roedd o'n ymarfer da i ni," dywedodd rheolwr Caerdydd Dave Jones. "Roeddwn i'n hapus iawn gydag agwedd fy chwaraewyr i - y rhai chwaraeodd yn yr hanner cyntaf ac y rhai gafodd cyfle yn yr ail hanner.

"Mae'r chwaraewyr wrth eu bodd gyda'r stadiwm newydd. Mi wneith hi gymryd dipyn i ddod i arfer gyda'r cae oherwydd mae o ychydig yn wanhaol i Ninian -mae pawb yn meddwl bod o'n fwy, ond tydi o ddim.

"Felly mae'n rhaid i ni ddod i arfer gyda maint y cae, ond dwi'n meddwl fe wnaethom ni'n dda yn y gêm."

Bydd carfan Caerdydd yn hedfan i Bortiwgal ddydd Sul ar gyfer wythnos o ymarfer, sy'n cynnwys dwy gêm yn erbyn Fatima (dydd Mercher) a Presidents Select XI (dydd Sadwrn).

Mae Magennis, Matthews ac Arron Morris - tri aelod o academi'r clwb - wedi cael eu hychwanegu i'r garfan, ond bydd Darcy Blake yn aros adref i gael triniaeth ar anaf i'w goes.


Caerdydd: David Marshall, Kevin McNaughton, Mark Kennedy, Maros Klimpl, Mark Hudson, Gabor Gyepes, Chris Burke, Stephen McPhail, Jay Bothroyd, Michael Chopra, Ross McCormack.
Eilyddion: Tony Capaldi, Peter Enckelman, Paul Quinn, Anthony Gerrard, Joe Ledley. Darcy Blake, Adam Matthews, Peter Whittingham, Gavin Rae, Paul Parry, Josh Magennis.

Chasetown: Ryan Price, John Branch, Mark Branch, Chris Slater, Richard Teesdale, Vaughan Thomas, Ben Steane, Danny Bragoli, Gary Birch, Dean Perrow, Richard Batchelor.
Eilyddion: Adie Smith, Phil Harris, Craig Milligan, Craig Marshall, James Fryer, Ross Miller, Will Ricketts, Steve Clancy, Jack Farmer.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy