|
Cadarnhaodd sgan nos Lun bod cyn chwaraewr Aston Villa wedi dioddef anaf difrifol i'w bigwrn. Daw'r cadarnhad am anaf Whttingham ddiwrnod wedi cadarnhad y bydd yn rhaid i Joe Ledley dderbyn llawdriniaeth ar ei fys ar ôl dioddef yr anaf yn erbyn Palace. Bydd Ledley allan am fis ac fe w'r chwaraewr ddiweddaraf fydd yn colli gemau i'r Adar Gleision yn y Bencampwriaeth. Mae'r ymosodwr Jay Bothroyd allan am nifer o wythnosau oherwydd anaf i'w linyn gar tra bod Ross McCormack wedi bod yn dioddef gydag anaf tebyg.
 |