BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 16 Mawrth 2011

Monk ac Orlandi yn rhoi hwb i Abertawe

Fe all y capten Garry Monk fod ar gael ar gyfer gêm Abertawe gartref yn erbyn Nottingham Forest yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.

Garry Monk
Chwaraeodd Monk ac Andrea Orlandi i ail dîm y Swans yn erbyn Plymouth brynhawn Mawrth.

Roedd y ddau yn dychwelyd wedi anafiadau gyda Monk yn cwblhau'r 90 munud ac Orlandi ar y maes am 75 munud.

Nid yw Monk wedi chwarae i dîm cyntaf Abertawe ers dioddef anaf i'w ben-glin yn erbyn Colchester yng Nghwpan FA Lloegr ym mis Ionawr.

Ar y pryd roedd hi'n ymddangos y byddai'r amddiffynnwr allan am dri mis ond mae wedi gwella o'r anaf yn gynt na'r disgwyl.

Dioddefodd Orlandi anaf i'w goes yn ystod gêm y Swans yn erbyn Leyton Orient ym mis Ionawr.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy