BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 16 Tachwedd 2009
Cynnig am Williams yn 'anochel'

Dywed rheolwr Abertawe Paulo Sousa bod dim amheuaeth y bydd clybiau Uwch Gynghrair Lloegr yn ceisio prynu Ashley Williams cyn hir.

Ashley Williams

Gwelwyd perfformiad disglair arall gan Williams ddydd Sadwrn ym muddugoliaeth Cymru yn erbyn Yr Alban wrth iddo arwain ei wlad am y tro cyntaf.

Mae adroddiadau yn y wasg eisoes wedi honni bod Wigan a Sunderland yn gobeithio ei hudo i'r Uwch Gynghrair, a dywedodd Sousa ei fod yn disgwyl gweld amryw o glybiau eraill yn cadw golwg ar ei amddiffynnwr.

"Does gen i ddim amheuaeth bod clybiau yn ei wylio," meddai Sousa. "Mae ganddo'r gallu i chwarae yn yr Uwch Gynghrair oherwydd dwi'n gwybod am nifer sy'n chwarae yn y gynghrair yna sydd ddim cystal ag o."

Rheolwr presennol Wigan Roberto Martinez berswadiodd Williams i ymuno gyda'r Elyrch yn 2008, a hynny wedi iddo dreulio cyfnod ar fenthyg gyda'r Elyrch o Stockport County.

Mae Martinez eisoes wedi arwyddo Jason Scotland a Jordi Lopez o'i gyn glwb, a prin fyddai'r syndod pe bai Williams yn eu dilyn i ogledd orllewin Lloegr.

Dywedodd Sousa ei fod wedi ei blesio yn arw gan berfformiadau Williams, ond mynnodd na fyddai'n sefyll yn ei ffordd pe bai clwb o'r Uwch Gynghrair yn gwneud cynnig teg amdano.

"Dwi'n rhoi'r chwaraewyr yn gyntaf," meddai Sousa, enillodd Cwpan Ewrop dwywaith yn ystod ei yrfa ddisglair fel chwaraewr.

"Ac os ydi'r pethau yma'n digwydd ac yn rhywbeth da i'r chwaraewr yna mi fyddaf yn hapus iawn drosto."

Er iddo dreulio rhan helaeth o'i yrfa yn chwarae fel amddiffynnwr canol, mae Williams wedi chwarae yng nghanol cae yn y ddwy gêm ddiwethaf i Gymru.

Coronodd wythnos i'w chofio yn erbyn Yr Alban wrth iddo gael ei enwi yn gapten ar gyfer y gêm gyfeillgar ychydig ddyddiau ar ôl ennill gwobr Chwaraewr Cymreig y Flwyddyn a Chwaraewr y Flwyddyn o glwb Cymreig.

Arwyddodd gytundeb newydd pedair mlynedd o hyd gyda'r Elyrch ym mis Hydref.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy