|
O dan gynllun cadeirydd Bolton, Phil Gartside, byddai dwy gynghrair o 18 neu 20 tîm yn cael eu creu, gyda Celtic a Rangers o'r Alban yn cael gwahoddiad i chwarae yn yr ail adran. Deallir fod Garside hefyd yn hoff o'r syniad o greu clwb newydd yn Iwerddon i ymuno gyda'r drefn newydd. Byddai rhai o glybiau'r Bencampwriaeth yn rhan o'r ail adran ac mi fyddai posib esgyn o'r ail adran a disgyn o'r brif adran. Ond does dim sicrwydd y bydd modd i glybiau esgyn o'r Bencampwriaeth a dyna sy'n poeni Jenkins. "Dwi'n anghytuno'n llwyr gyda'i syniadau," meddai Jenkins. "Mi fydde nhw'n niweidiol i bêl-droed." Ar hyn o bryd, nid yw'n glir pa glybiau o'r Bencampwriaeth fydd yn gymwys i fod yn rhan o'r ddwy gynghrair newydd. Dywedodd Jenkins ei fod yn hyderus y byddai'r Elyrch yn gallu bodloni unrhyw feini prawf pe bai angen, ond mynnodd nad oedd cynlluniau Gartside yn rhoi chwarae teg i bawb. "Y rheswm pam bod ein cynghreiriau mor llwyddiannus yw oherwydd bod y clybiau yn brwydro i geisio esgyn ac i osgoi disgyn," ategodd Jenkins. "Os nawn ni gael gwared a hynny, dyna fydd dechrau'r diwedd i'r holl bethau ry' ni wedi brwydro i'w greu ym mhêl-droed." Croeso digon oer roddwyd i gynllun Gartside pan gafodd ei gyflwyno gerbron cadeiryddion yr Uwch Gynghrair chwe mis yn ôl. Ond mae Gartside wedi newid ambell i beth ers hynny ac mae rheolwr megis Martin O'Neill a Harry Redknapp wedi croesawu'r syniad o estyn gwahoddiad i Celtic a Rangers.
 |