BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 11 Tachwedd 2009
Cytundeb newydd i Monk

Mae capten Abertawe Garry Monk wedi arwyddo cytundeb newydd sy'n ei ymrwymo i'r clwb tan 2012.

Capten Abertawe Garry Monk

Ymunodd Monk, sy'n 30 mlwydd oed, gyda'r Elyrch ar gychwyn tymor 2004-05 ar ôl cael ei ryddhau o Southampton wedi wyth mlynedd gyda'r clwb.

Mae'r amddiffynnwr canol wedi sefydlu ei hun fel rhan annatod o'r tîm ers hynny, gan chwarae rôl allweddol wrth helpu'r clwb esgyn o Adran Dau i'r Bencampwriaeth.

"Dwi wrth fy modd yn arwyddo cytundeb newydd," meddai Monk, sydd wedi chwarae 150 o gemau cynghrair i Abertawe.

"Mae hyn yn rhywbeth dwi wedi bod eisiau ei wneud ers talwm. Dwi wrth fy modd yn chwarae i Abertawe a dwi heb ystyried chwarae i unrhyw glwb arall."

Bu'n rhaid i Monk dynnu allan o'r tîm i wynebu Caerdydd ar fyr rybudd ddydd Sadwrn ar ôl anafu ei goes wrth gynhesu cyn y gêm ar Stadiwm Liberty.

Ond mae disgwyl iddo fod yn holliach ar gyfer y gêm nesaf, sef ymweliad Derby County a Stadiwm Liberty ar nos Wener, 20 Tachwedd.

Dywedodd rheolwr Abertawe, Paulo Sousa, fod profiad Monk yn hollbwysig i'r tîm.

"Mae o'n ymwybodol o athroniaeth y clwb a dwi'n falch iawn ei fod wedi ymrwymo ei ddyfodol hirdymor i ni."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy