Dechreuodd Abertawe y gêm ar dân, ac wedi 16 munud yn unig roedd yr Elyrch ddwy gôl ar y blaen.
Nathan Dyer rwydodd y gynta' â'i ben wedi naw munud yn dilyn cic rydd Darren Pratley o'r asgell dde.
Roedd amddiffyn Caerdydd ar fai eto pan sgoriodd Pratley ei gôl gynta' o'r tymor wedi croesiad o'r chwith gan Federico Bessone.
Ond yn erbyn rhediad y chwarae, roedd Caerdydd yn gyfartal 10 munud cyn yr egwyl gyda dwy gôl o fewn tri munud.
Curodd Jay Bothroyd y trap camsefyll ac ergydiodd yn gelfydd heibio Dorus de Vries o 12 llath wedi 32 munud.
Yna o gic rydd Ross McCormack, llwyddodd y capten Mark Hudson i rwydo o ongl dynn ar y postyn pellaf i unioni'r sgôr.
Yn yr ail hanner, tarodd McCormack y trawst gyda chic rydd i Gaerdydd ond ychydig eiliadau yn ddiweddarach fe aeth Abertawe ar y blaen unwaith yn rhagor.
Rhoddodd Bessone groesiad peryglus tuag at y postyn gyntaf, ac amserodd Pratley ei rediad yn berffaith i'w chyfarfod gyda foli wych.
Roedd amddiffyn yr Elyrch o dan warchai yn y munudau olaf wrth i Gaerdydd yrru pentwr o beli hir tua'r cwrt cosbi, ond llwyddodd Abertawe i oroesi, gyda Ashley Williams yn gawr yn yr awyr.
Gyda'r fuddugoliaeth hon, mae Abertawe yn ymestyn eu rhediad heb golli i 10 gêm ac yn codi i'r safleoedd ail-gyfle am y tro cyntaf o'r tymor.
Abertawe: De Vries, Williams, Bessone, Tate, Rangel, Britton, Pratley, Van der Gun, Dyer (Butler 83), Allen (Orlandi 77), Beattie (Pintado 66).
Heb eu defnyddio: Cornell, Lopez, Trundle.
Cerdyn melyn: Britton, Dyer.
Goliau: Dyer 9, Pratley 16, 61.
Caerdydd: Marshall, Matthews, Capaldi (Taiwo 69), Gerrard, Hudson, Ledley, Rae, Kennedy, Burke, Bothroyd, McCormack.
Heb eu defnyddio: Enckelman, Gyepes, Quinn, Scimeca, Comminges, Feeney.
Cerdyn melyn: Gerrard.
Goliau: Bothroyd 32, Hudson 35.
Torf: 18,209
Dyfarnwr: Lee Probert (Wiltshire).