BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 06 Tachwedd 2009
Allen yn ysu i ddial ar Gaerdydd

Dywed Joe Allen ei fod yn benderfynol o dalu'r pwyth yn ôl i Gaerdydd ddydd Sadwrn ar ôl i'w freuddwyd o sgorio gôl fuddugol yn erbyn yr Adar Gleision gael ei chwalu y tymor diwethaf.

Joe Allen yn dathlu ei gôl yn erbyn Caerdydd
Roedd yr Elyrch o fewn dau funud i sicrhau buddugoliaeth enwog ar Barc Ninian ym mis Ebrill ar ôl i Allen sgorio ei gôl gyntaf i'w glwb.

Dathlodd y chwaraewr canol cae yn wyllt o flaen cefnogwyr Abertawe, ond trodd y wefr yn sur wrth i Ross McCormack rwydo yn yr eiliadau olaf o gic gosb ddadleuol.

Yn ôl Allen, mae penderfyniad y dyfarnwr yn dal i gorddi'r chwaraewyr.

"Ry' ni dal yn siarad ymysg ein gilydd am y gêm," dywedodd Allen, sydd wedi bod ynghlwm â chlwb Abertawe ers yn 10 mlwydd oed.

"Yn syth pan wnaeth y bêl daro cefn y rhwyd gallwch chi weld gymaint oedd e'n meddwl i mi yn bersonol.

"O'n i'n meddwl mai dyna'r siawns i ennill y gêm a chymryd tri phwynt oddi wrth Parc Ninian.

"Yn anffodus fe gawsom y siom o adael ail gôl Caerdydd i mewn - efallai mewn ffordd ddadleuol. Roedd hi'n siomedig i beidio cymryd y tri phwynt a hoffwn i wneud hynny'n iawn y tymor yma.

"Efallai ei fod o'n hunanol, ond ar y pryd roeddwn yn teimlo'n gyffrous iawn i fod yr arwr i Abertawe - yn enwedig achos fy mod wedi bod gyda'r clwb ers gymaint o flynyddoedd.

"Mi fydde fe wedi meddwl gymaint i mi a fy nheulu. Gobeithio ga i siawns i wneud hynny eto."

Bydd y gêm ar Stadiwm Liberty brynhawn Sadwrn yn gweld prif sgorwyr y Bencampwriaeth yn herio'r amddiffyn cadarnaf y gynghrair.

Mae Caerdydd wedi sgorio 31 gôl mewn 15 gêm gynghrair, gan helpu i godi tîm Dave Jones i'r ail safle yn y Bencampwriaeth.

Un ar ddeg gwaith yn unig mae'r Elyrch wedi canfod cefn y rhwyd, ond mae'u record o ildio dim ond 10 gôl wedi sicrhau eu bod o fewn cyffwrdd i'r chwech uchaf.

Yn wir, mae tîm Paulo Sousa wedi ennill un pwynt yn fwy na'r hyn wnaethon nhw o dan Roberto Martinez wedi'r un nifer o gemau y tymor diwethaf.

Ond yn ôl ymosodwr Caerdydd, Jay Bothroyd, mae'r Elyrch yn dîm gwannach y tymor yma ar ôl colli dylanwad Martinez, a'r ddau brif sgoriwr Jason Scotland a Jordi Gomez.

Dywedodd chwaraewr canol cae Abertawe, Leon Britton, fod hynny'n rhywbeth "twp" i'w ddweud a bod gwell peidio cymryd ei sylwadau o ddifri.

"Cyn gemau fel hyn, mae pobl yn dweud pethau i geisio creu bach o stŵr, ond dim ond gêm feddyliol ydi o yn y pendraw," meddai Britton, sy'n adnabod Bothroyd ers yn 11 mlwydd oed.

"Fydda ni ddim yn cymryd sylw o rywbeth sy'n ddim byd ond sylw dibwys."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy