|
Roedd yr Elyrch o fewn eiliadau i ennill ar Barc Ninian y tymor diwethaf tan i'r dyfarnwr, Mike Dean, roi cic gosb ddadleuol i'r Adar Gleision a sgoriodd Ross McCormack i gipio gêm gyfartal 2-2. A dywedodd Williams fod angen math arbennig o ddyfarnwr i ddelio gyda'r pwysau a'r awyrgylch tanbaid mewn gêm rhwng dau elyn lleol. "Mae yna gymaint o bethau'n digwydd mewn gemau fel hun ac mae'n rhaid i'r penderfyniadau mawr i fod yn gywir," dywedodd amddiffynnwr Cymru. "Mae angen dyfarnwr synhwyrol ac un sy'n sicr o'i benderfyniadau. Os ddim, mae'r gêm yn beryg o gael ei sbwlio fel digwyddodd y tymor diwethaf. "Roedd hi'n gêm mor fawr ac roedd hi'n bechod ei fod wedi gorffen ar benderfyniad fel yna. Dwi heb siarad gyda neb sy'n credu ei fod o'n gic gosb. "Roeddwn yn hynod o siomedig. Mae'r penderfyniad yn dal i fy nghorddi i." Lee Probert fydd y dyn gyda'r cyfrifoldeb o geisio cadw trefn ar Stadiwm Liberty - dyfarnwr sydd wedi bod yng nghanol ambell i benderfyniad dadleuol mewn gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr yn ddiweddar. Cafodd Probert ei feirniadu'n hallt am ei ran yn y digwyddiad a welodd rheolwr Arsenal Arsene Wenger ei yrru i'r eisteddle yn ystod ymweliad ei dîm â Old Trafford. Probert oedd y pedwerydd swyddog yn ystod yn gêm ym mis Awst. Dros y penwythnos diwethaf, fe ddangosodd gerdyn melyn i Stephen Warnock yn gêm Aston Villa yn erbyn Everton er mai Stiliyan Petrov oedd y chwaraewr a droseddodd. A'r tymor diwethaf, honnodd rheolwr Caerdydd nad oedd Probert yn ddigon da i ddyfarnu yn y Bencampwriaeth ar ôl i'r Adar Gleision golli 1-0 yn Queens Park Rangers. Dangosodd y dyfarnwr gerdyn coch i Darren Purse a Miguel Comminges, a dywedodd Jones bod Probert heb ddangos unrhyw fath o barch i'w chwaraewyr.
 |