BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 31 Hydref 2009
Scunthorpe United 0-2 Abertawe

Sicrhaodd Abertawe fuddugoliaeth oddi cartref campus arall wedi perfformiad proffesiynol ar Barc Glandford yn y Bencampwriaeth.

Craig Beattie yn sgorio i roi Abertawe ar y blaen yn Scunthorpe
Yr oedd Craig Beattie eisoes wedi dod yn agos ddwywaith i Abertawe cyn iddo roi'r ymwelwyr ar y blaen wedi 32 munud.

Sgoriodd yr Albanwr ei drydydd gôl o'r tymor gyda chic rhydd o belter a hynny wedi i Sam Togwell droseddu yn erbyn Darren Pratley.

Gorffennodd Scunthrope yr hanner yn gryf gyda Michael O'Connor yn gweld ei gynnig yn cael ei arbed gan Dorus de Vries.

Bu bron y dîm i Beattie ymestyn mantais Abertawe yn ystod munudau agoriadol yr ail hanner gyda Joe Murphy yn arbed.

Ond sicrhaodd Cedric Van der Gun y fuddugoliaeth wedi 67 pan sgoriodd ei gôl gyntaf i'r Elyrch ar ôl cyfuno'n dda hefo Pratley.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod tîm Paulo Sousa wedi ymestyn eu rhediad heb golli i naw gêm.


Scunthorpe: Murphy, Williams, Byrne, Mirfin, Canavan, Togwell, McCann (Sparrow 57), O'Connor, Wright (Woolford 57), Hayes (Thompson 74), Hooper
Eilyddion: Slocombe, Spence, Friend, Forte

Cerdyn melyn: Togwell, O'Connor

Abertawe: De Vries, Williams, Tate, Monk, Rangel, Britton, Pratley, Van der Gun, Allen (Lopez 68), Gower (Butler 39), Beattie (Pintado 73)
Eilyddion: Bessone, Serran, Dyer, Trundle

Cerdyn melyn: Van der Gun

Goliau: Beattie 32 , Van der Gun 67

Torf: 5,201

Dyfarnwr: K Evans (Sir Gaerhirfryn)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy