BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 30 Hydref 2009
Scunthorpe am ein pryfocio: Sousa

Mae rheolwr Abertawe Paulo Sousa yn ofni y bydd ei chwaraewyr yn cael eu pryfocio gan Scunthorpe pan fydd y timau yn cwrdd ddydd Sadwrn.

Paulo Sousa

Gwelodd tri o chwaraewyr yr Elyrch gerdyn coch mewn gêm danllyd rhwng y clybiau yng Nghwpan Carling yn Stadiwm Liberty fis Awst.

"Yr effaith yw y gall y tîm arall ein pryfocio," meddai Sousa wrth edrych ymlaen at y gêm yn y Bencampwriaeth. "Mae nhw hefyd yn chwarae gartref ond 'dwi eisiau i fy chwaraewyr ganolbwyntio ar y pêl-droed.

Cafodd y capten Garry Monk, Gorka Pintado ac Angel Rangel eu danfon o'r maes wrth i'r Elyrch golli o 2-1 wedi amser ychwanegol yn erbyn Scunthorpe.

Mae Sousa yn gobeithio am ddyfarnwr "cryf" ar gyfer y gêm ar Barc Glanford brynhawn Sadwrn.

"Mae'r cefnogwyr yn agos i'r chwaraewyr ac maent yn rhoi'r dyfarnwr dan bwysau drwy'r adeg er mwyn ceisio cael ciciau rhydd a chwarae gosod," meddai Sousa.

"Mae hynny'n gwneud hi'n anodd i dimau. Rydan ni angen dyfarnwr fydd ddim yn cael ei ddylanwadu."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy