|
Gwelwyd dechrau pwrpasol gan yr ymwelwyr, ond Craig Beattie gafodd cyfle gorau'r hanner i'r Elyrch cyn i'r dyfarnwr wrthod cic o'r smotyn clir i'r tîm cartref. Roedd Mark Gower a Alan Tate yn euog o wastraffu cyfleoedd i roi eu tîm ar y blaen ac fe ddaeth Darren Pratley yn agos i gipio'r pwyntiau yn yr eiliadau olaf. Mae Abertawe wedi ymestyn eu rhediad heb golli i wyth gêm gan ildio llai o goliau nag unrhyw dim arall yn y Pencampwriaeth. Abertawe: De Vries, Rangel, Tate, Williams, Bessone, Gower, Britton, Butler, Pratley, Van der Gun, Beattie. Eilyddion: Cornell, Lopez, Pintado, Allen, Dyer, Richards, Trundle. Blackpool: Gilks, Eardley, Baptiste, Seip, Crainey, Vaughan, Southern, Adam, Bouazza, Euell, Clarke. Eilyddion: Rachubka, Evatt, Burgess, Ormerod, Emmanuel-Thomas, Bangura, Demontagnac. Dyfarnwr: Andy Hall (Canolbarth Lloegr)
 |