|
Bydd y chwaraewr canol cae yn cael llawdriniaeth ar yr anaf ddydd Llun, ac yn wynebu cyfnod o ddau fis o orffwys. Teimlodd Pratley boen wrth ymarfer gyda gweddill y garfan, ac mae meddygon wedi argymell rhagor o driniaeth er mwyn peidio gwathygu'r anaf. Fe anafodd yr ysgwydd yn wreiddiol ym mis Ionawr, a threuliodd gyfnod hir allan o'r tîm ar ôl cael llawdriniaeth. Roedd disgwyl iddo golli gweddill y tymor, ond fe ddychwelodd i chwarae yng nghynt na'r disgwyl wedi chwe wythnos yn unig ar y cyrion. Mae'r anaf i Pratley yn ergyd bellach i baratoadau'r rheolwr newydd, Paulo Sousa, ar gyfer y tymor newydd. Mae dau o'r chwaraewr mwyaf dylanwadol y tymor diwethaf, Jason Scotland a Jordi Gomez, wedi gadael ac mae amheuaeth dros ddyfodol Ferrie Bodde. Mae Sousa hefyd yn ceisio penodi tîm hyfforddi newydd ar ôl i'r bedwar aelod ddilyn Roberto Martinez i Wigan.
 |