BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
12fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 15 Gorffennaf 2009
Wigan ar fin arwyddo Scotland

Mae Wigan Athletic gam yn nes at gwblhau trosglwyddiad yr ymosodwr Jason Scotland o Abertawe am £2m wedi i'r chwaraewr basio prawf meddygol a derbyn trwydded waith.

Jason Scotland

Cytunodd y clybiau ar ffi yr wythnos ddiwethaf ond mae'r cytundeb dwy flynedd yn ddibynnol ar Wigan yn sicrhau caniatâd rhyngwladol yn ogystal â'r chwaraewyr yn derbyn fisa.

Chwaraewr Trinidad a Tobago fyddai'r trydydd chwaraewr i Roberto Martinez ei arwyddo ers ymuno gyda'r clwb o Abertawe fis diwethaf.

"Mae Jason yn sgoriwr naturiol," meddai Martinez. "Mae pob rheolwr eisiau chwaraewr sydd â'r gallu i wneud pethau yn y cwrt.

Mae Scotland yn gadael Abertawe ar ôl bod yn brif sgoriwr y clwb am y ddwy flynedd ddiwethaf.

"'Dwi'n gyffrous iawn am gael y cyfle yn yr Uwchgynghrair ac eisiau profi i'r rheolwr ei fod wedi gwneud y peth cywir yn fy nenu yma," meddai Scotland.

"Fe wnes i fwynhau fy nghyfnod gydag Abertawe ac yn teimlo y gwnes i roi gwasanaeth da i'r clwb.

"Hoffwn ddiolch yn fawr i'r holl gefnogwyr yno, ond mae pennod newydd yn fy ngyrfa ar fin dechrau."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy