|
Mae Abertawe eisoes wedi gwrthod cynnig o £2.5m gan Bolton Wanderers am y chwaraewr canol cae.
Ond y gred yw bod tîm Gary Megson yn awyddus o hyd i arwyddo'r chwaraewr 27 oed.
Mae Bodde wedi bod yn yr Iseldiroedd yn derbyn triniaeth i'r anaf y dioddefodd i'w ben-glin y tymor diwethaf.
Fe gollodd rhan fwyaf o'r tymor diwethaf ar ôl dioddef anaf difrifol yn erbyn Birmingham City fis Tachwedd y llynedd.
Roedd rheolwr newydd Abertawe, Paulo Sousa wedi cyhuddo Bodde o ddangos amarch wedi iddo beidio â mynychu diwrnod cyntaf y clwb yn ôl yn ymarfer.
 |