|
Byddai cyn chwaraewr Barcelona wedi bod yn rhydd i adael Abertawe ar ddiwedd ei gytundeb presennol.
Ond mae Orlandi, symudodd i Abertawe o Alaves yn 2007, wedi penderfynu aros yn Stadiwm Liberty.
"Cefais gynigion gan dimau eraill yn Lloegr a Sbaen. Daethum yn agos at arwyddo i glwb arall," meddai Orlandi.
"Ond yn y pendraw dim ond un lle yr oeddwn eisiau bod ac fe wnes i ffonio'r cadeirydd [Huw Jenkins] er mwyn trafod cytundeb newydd.
Mae Orlandi, dreuliodd dau dymor ar fenthyg gyda Barcelona, wedi cyfaddef y bu'n ansicr ei ddyfodol yn dilyn newidiadau ar y Liberty yn ystod yr haf.
Penodwyd Paulo Sousa yn rheolwr y clwb wedi i Roberto Martinez adael er mwyn cydio'r awenau gyda Wigan Athletic.
"Ar un cyfnod yr oeddwn yn meddwl bod fy nghyfnod gydag Abertawe ar ben," meddai Orlandi.
"Ond fe wnes i sgwrsio gyda'r giaffar newydd [Sousa] a dyma fe'n fy ngwahodd i Abertawe am sgwrs bellach.
"Fe ddywedodd wrthyf fod yn rhai i mi wella rhai elfennau o fy ngem ac roeddwn yn cytuno gyda hynny."
Er mai blwyddyn yw hyd cytundeb newydd Orlandi mae gan y clwb opsiwn ar gyfer ail flwyddyn.
 |