|
Bydd Scotland yn awr yn trafod telerau personol gyda Wigan a bydd angen i'r clwb sicrhau trwydded waith amdano.
"Yn amlwg ry' ni'n siomedig i golli Scotland," meddai cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins.
"Ond 'dwi'n meddwl yr oedd hi'n anochel o ystyried ei oed a'i ddymuniad i chwarae yn yr Uwchgynghrair."
Mae dyfodol Scotland yn Stadiwm Liberty wedi body n y fantol ers dechrau'r wythnos gan nad oedd wedi teithio gyda'r garfan i Bortiwgal.
Roedd Abertawe eisoes wedi gwrthod cynnig gwerth £1.25m gan Burnley am ymosodwr Trinidad & Tobago.
Ac yn awr mae Wigan a'u rheolwr Roberto Martinez, gynt o Abertawe, yn barod i dalu £2m am y chwaraewr symudodd i'r Elyrch o St Johnstone yn 2007.
Yr oedd Abertawe wedi gobeithio sicrhau £3m am y chwaraewr yr oeddynt wedi ei arwyddo am £25,000 ddwy flynedd yn ôl.
Ond dim ond blwyddyn oedd yn weddill ar gytundeb Scotland gyda'r clwb ac fe fyddai wedi gadael y clwb am ddim ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
"Fe fydd yn amlwg yn ail ymuno gyda Roberto Martinez unwaith eto," meddai Jenkins.
"Ond 'dwi'n meddwl y byddai Jason wedi symud cynghreiriau hyd yn oes os bydde ni heb newid y rheolwr.
"Doedd hi ddim yn gyfrinach yr oedd eisiau chwarae yn yr Uwchgynghrair ac mae pawb yn y clwb yn credu ei fod yn haeddu'r cyfle hwnnw.
"Mae sgorio 53 o goliau mewn dau dymor yn dipyn i gamp ac ar ran pawb sy'n gysylltiedig gyda'r clwb fe hoffwn ddiolch iddo am ei ymdrechion.
"Ac fe hoffwn sicrhau'r cefnogwyr y bydd ar aria ry' ni'n derbyn am Jason yn cael ei ail fuddsoddi yn y clwb."
 |