BBC HomeExplore the BBC

LLUN
16eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 09 Gorffennaf 2009
Wigan yn agos at arwyddo Scotland

Mae Adran Chwaraeon BBC Cymru wedi cael ar ddeall bod Abertawe wedi cytuno i werthu'r ymosodwr Jason Scotland i Wigan o Uwchgynghrair Lloegr.

Jason Scotland

Mae disgwyl i'r ddau glwb gyhoeddi datganiad ar y cyd ddydd Gwener.

Dwysau wnaeth y dyfalu ynglŷn â dyfodol Scotland ar ôl iddo fethu a hedfan gyda gweddill y garfan i ymarfer ym Mhortiwgal ddydd Llun.

Mae cyn-reolwr yr Elyrch Roberto Martinez wedi bod yn awyddus i ddenu'r chwaraewr 30 oed o'r Liberty ers iddo olynu Steve Bruce yn Wigan fis ddiwethaf.

Sgoriodd Scotland 24 o goliau yn y Pencampwriaeth y tymor diwethaf ac mae Abertawe eisoes wedi gwrthod cynnig o £1m oddi wrth Burnley o'r Uwchgynghrair am chwaraewr rhyngwladol Trinidad a Thobago.

Roedd Abertawe wedi rhoi pris o £3m ar ben Scotland, ond mae'n bosib y bydd y clwb yn barod i dderbyn £2m am y chwaraewr gan mai blwyddyn yn unig sy'n weddill ar ei gytundeb.

Beth bynnag fydd unrhyw bris terfynol, fe fydd yn cynrychioli busnes da iawn i'r clwb wrth ystyried mai £25,000 y talwyd amdano dwy flynedd yn ôl.

Ers ymuno, mae Scotland wedi sgorio 53 gôl, gan orffen fel prif sgoriwr y clwb dwy flynedd yn olynol.

Mae'r chwaraewr wedi datgan ei ddymuniad i chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac mae ei asiant wedi erfyn ar Abertawe i "ystyried o ddifrif" unrhyw gynnig gan glwb o'r adran hynny.

Mae'r dyfalu ynglŷn â dyfodol Scotland gydag Abertawe wedi dwysau ar ôl i'r ymosodwr beidio hedfan gyda gweddill y garfan i ymarfer ym Mhortiwgal.

Doedd Ferrie Bodde ddim ar yr awyren chwaith ddydd Llun, ond mae'r Elyrch yn mynnu nad oedd disgwyl iddo gychwyn ymarfer tan wythnos nesaf.

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd cynnig gwerth tua £2.5m gan Bolton Wanderers am y chwaraewr canol cae ei wrthod gan Abertawe.

Bydd carfan yr Elyrch yn treulio wythnos ym Mhortiwgal cyn dychwelyd i Gymru i chwarae'r gêm baratoadol gyntaf yn erbyn FC Twente yn Stadiwm Liberty ar 18 Gorffennaf.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy