|
Mae cyn-reolwr yr Elyrch wedi bod yn awyddus i ddenu'r chwaraewr 30 oed o'r Liberty ers iddo olynu Steve Bruce yn Wigan fis ddiwethaf.
Sgoriodd Scotland 24 o goliau yn y Pencampwriaeth y tymor diwethaf ac mae Abertawe eisoes wedi gwrthod cynnig o £1m oddi wrth Burnley o'r Uwchgynghrair am chwaraewr rhyngwladol Trinidad a Thobago.
Mae cadeirydd yr Elyrch Huw Jenkins wedi gwrthod datgelu faint yn union y mae Wigan wedi cynnig am yr ymosodwr, gan ychwanegu: "Fe fydd y cynnig yn cael ei ystyried ac fe fyddwn ni yn ymateb ymhen ychydig ddyddiau."
Mae Abertawe wedi rhoi pris o £3m ar ben Scotland, ond mae'n bosib y bydd y clwb yn derbyn llai o arian gan mai blwyddyn yn unig sy'n weddill ar ei gytundeb. Beth bynnag fydd unrhyw bris terfynol, fe fydd yn cynrychioli busnes da iawn i'r clwb wrth ystyried mai £25,000 y talwyd amdano dwy flynedd yn ôl. Ers ymuno, mae Scotland wedi sgorio 53 gôl, gan orffen fel prif sgoriwr y clwb dwy flynedd yn olynol. Mae'r chwaraewr wedi datgan ei ddymuniad i chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac mae ei asiant wedi erfyn ar Abertawe i "ystyried o ddifrif" unrhyw gynnig gan glwb o'r adran hynny.
Mae'r dyfalu ynglŷn â dyfodol Scotland gydag Abertawe wedi dwysau ar ôl i'r ymosodwr beidio hedfan gyda gweddill y garfan i ymarfer ym Mhortiwgal.
Doedd Ferrie Bodde ddim ar yr awyren chwaith ddydd Llun, ond mae'r Elyrch yn mynnu nad oedd disgwyl iddo gychwyn ymarfer tan wythnos nesaf. Yr wythnos ddiwethaf, cafodd cynnig gwerth tua £2.5m gan Bolton Wanderers am y chwaraewr canol cae ei wrthod gan Abertawe.
Bydd carfan yr Elyrch yn treulio wythnos ym Mhortiwgal cyn dychwelyd i Gymru i chwarae'r gêm baratoadol gyntaf yn erbyn FC Twente yn Stadiwm Liberty ar 18 Gorffennaf.
 |