BBC HomeExplore the BBC

GWENER
25ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 01 Gorffennaf 2009
Bodde yn cwrdd gyda Sousa

Mae Ferrie Bodde wedi cynnal trafodaethau "llwyddiannus" gyda rheolwr newydd Abertawe Paulo Sousa a'r cadeirydd Huw Jenkins.

Ferrie Bodde

Ar ddechrau'r wythnos dywedodd Sousa bod Bodde wedi dangos amarch drwy beidio dychwelyd ar gyfer sesiwn ymarfer cyntaf y clwb.

"Mae Ferrie yn chwaraewr da ond mae angen iddo fod yn fwy proffesiynol," meddai Sousa.

Yr wythnos ddiwethaf fe gafodd cynnig gwerth tua £2.5m gan Bolton Wanderers am Bodde ei wrthod gan Abertawe.

Mae Bodde wedi derbyn sêl bendith y clwb i ddychwelyd i'r Iseldiroedd wrth iddo barhau i dderbyn triniaeth i'w ben-glin.

Mae disgwyl y bydd Bodde yn dychwelyd i Abertawe ar 12 Gorffennaf pan fydd yn ôl yn ymarfer gyda gweddill y garfan.

Fe gollodd yr Iseldirwr y mwyafrif o'r tymor diwethaf ar ôl dioddef anaf difrifol i'w ben-glin mewn gêm yn erbyn Birmingham fis Tachwedd y llynedd.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy