BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
14eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 18 Hydref 2005
Enw newydd i stadiwm Abertawe

Mae stadiwm newydd Clwb Pêl-droed Abertawe a rhanbarth rygbi Y Gweilch yn y Morfa wedi cael enw newydd.

Bydd y stadiwm, sydd ag 20,000-sedd, sydd, hyd yn hyn, wedi ei hadnabod fel Y Stadiwm Newydd, yn cael ei galw yn Stadiwm Liberty.

Mae cwmni Stadco, sydd yn rhedeg y stadiwm, wedi cytuno ar gytundeb pum mlynedd â Liberty Properties PLC.

Credir fod cytundeb Liberty werth oddeutu £500,000.

Mae cyn ganolwr Cymru a'r Llewod, Scott Gibbs, oedd yn gapten ar Y Gweilch yn ystod tymor 2001-02 yn reolwr â Liberty Properties, ac meddai: "Rydym yn falch iawn gallu buddsoddi yn y stadiwm newydd yn Abertawe,

"Rydym yn gwmni cenedlaethol ond mae ein gwreiddiau yn Abertawe ac mae'n fraint gallu cefnogi'r fath fenter," meddai Gibbs, benderfynodd ddod â'i yrfa rygbi i ben ym mis Ionawr 2004.

Bydd y tîm rygbi yn cael cyfle i chwarae o dan yr enw newydd ddydd Sul wrth i'r Gweilch groesawu Stade Francais yn rownd gyntaf Cwpan Heineken.

Mae Abertawe yn teithio i Torquay nos Fawrth yn Nhlws yr LDV ac yn teithio unwaith eto yn y gynghrair ddydd Sadwrn.

Ond bydd y pêl-droedwyr yn ôl yn Stadiwm Liberty ar 29 Hydref wrth iddynt groesawu Chesterfield.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy