|
Roedd cytundeb chwe mis Brandy yn dod i ben ddydd Sadwrn, ond mae pencampwyr yn Uwchgynghrair yn awyddus i'w gael yn ôl yn fuan. Dwywaith yn unig chwaraeodd yr ymosodwr 19 mlwydd oed o'r cychwyn i'r Elyrch y tymor yma, a hynny yn erbyn Brentford a Watford yn y Cwpan Carling. Chwaraeodd 14 gêm fel eilydd yn y Bencampwriaeth, gan fethu â sgorio'r un gôl.
 |