BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
15fed Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 13 Ionawr 2009
Histon v Abertawe (nos Fawrth)

Mae amheuaeth dros ffitrwydd triawd canol cae Abertawe Darren Pratley (pen-glin), Joe Allen (pigwrn) a Tom Butler (coes) ar gyfer y gêm yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr yn Histon nos Fawrth.

Mae'r anafiadau yn debygol o weld Owain Tudur Jones yn cael cyfle i chwarae am y tro cyntaf ers dros fis.

"Dwi'n edrych ymlaen at rediad allan ar y cae gobeithio," dywedodd Jones. "Dyma'r math o gyfleodd mae'n rhaid i mi ddisgwyl amdanyn nhw fel chwaraewr wrth gefn yn y garfan ar hyn o bryd.

"Mae'n rhaid i mi wneud siŵr fy mod i'n profi pwynt mod i'n haeddu bod yn y garfan bob wythnos."

Mae'r amddiffynnwr Fede Bessone ar gael unwaith eto ar ôl gwell o anaf, felly hefyd y chwaraewr canol cae Andrea Orlandi.

Cafodd y gêm wreiddiol ei ohirio ar 3 Ionawr oherwydd bod y cae wedi rhewi, ond nid oes unrhyw amheuaeth y tro yma ar ôl i'r maes basio archwiliad nos Lun.

Mae Histon, sy'n ail yn Uwchgynghrair Blue Square, 64 safle yn is nag Abertawe ym mhyramid pêl-droed Lloegr.

Nid yw'r clwb o Swydd Caergrawnt wedi chwarae gêm gartref ers union i fis.

Bu gryn ffraeo rhwng y ddau glwb ar ôl i'r gêm gyntaf gael ei ohirio, gydag Abertawe yn gwadu honiadau Histon eu bod wedi rhoi pwysau ar y dyfarnwr i beidio caniatáu i'r gêm gael ei chwarae.

Ond ers hynny, mae'r ddwy ochr wedi ymddiheuro am eu sylwadau, gan ategu eu bod yn gobeithio gweld gêm gyfeillgar nos Fawrth.

Bydd yr enillwyr yn wynebu un ai Bristol City neu Portsmouth (sy'n ail-chwarae nos Fawrth) yn y rownd nesaf.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy