BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
26ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 27 Mawrth 2006
Gemau'n lwyddiant i Gymru?

Wedi i Gemau'r Gymanwlad 2006 ddod i ben gyda seremoni gloi odidog ym Melbourne, bydd athletwyr a swyddogion Cymru'n troi eu golygon tuag at Delhi yn 2010.


Ond o gofio fod Cymru wedi llwyddo i gasglu eu nifer fwyaf o fedalau erioed ym Manceinion yn 2002, a fydd y tîm yn hapus â'u 19 medal ym Melbourne?

Casglwyd chwe medal aur allan o gyfanswm o 31 medal ym Manceinion yn 2002, ond nid oedd Cymru'n debygol o gyrraedd y cyfanswm yma ym Melbourne, a hynny am ddau reswm.

Newidiwyd y rheolau codi pwysau gan olygu mai un medal yn unig oedd ar gael i bob cystadleuydd yn hytrach na'r tair oedd ar gael ym Manceinion.

A phenderfynodd Awstralia beidio â chynnwys judo yn y Gemau - camp oedd wedi gweld Cymru'n casglu chwe medal ym Manceinion.

O'r herwydd, gosodwyd targed o rhwng 15 ac 20 medal i'r Cymry ac, o gofio bod y tîm wedi ennill tair medal aur, pump arian ac 11 efydd, fe ddylai Tîm Cymru fod yn fodlon â'u perfformiad.

Breeze yn torri record

Y codwr pwysau, Michaela Breeze, gariodd y Ddraig Goch yn ystod y seremoni gloi, a sicrhaodd fedal aur gyntaf Cymru yn ystod y Gemau.

Llwyddodd yr athrawes ymarfer corff 26 mlwydd oed i dorri record y Gemau trwy gipio 100kg yng nghystadleuaeth codi pwysau'r merched 63kg gan sefydlu record newydd am y cyfanswm yn y broses.

A chasglodd David Davies fedal aur gyntaf Cymru yn y pwll nofio ers 32 mlynedd trwy ennill y 1500m dull rhydd.

Tra bo record tîm saethu Cymru o ennill medal ym mhob un o'r Gemau er 1970 yn parhau wedi i David Phelps ennill aur yn y gystadleuaeth reiffl 50m ar orwedd.

Cafodd Davies lawer o sylw ym mhapurau newydd Awstralia - gwlad sydd wedi gwirioni â champau'r nofwyr - a llwyddodd y Cymro i gipio ail fedal aur Cymru.

Roedd ei fuddugoliaeth yn y 1500m dull rhydd yn sicrhau medal aur gyntaf Cymru yn y pwll nofio ers Patricia Bevan ym 1974, ac ar yr un pryd, llwyddodd i ddod â record wych Awstralia o ennill pob medal aur yn y 1500m er 1958 i ben.

> Aur i Davies yn y pwll

Ni fu'n rhaid i'r nofiwr 21 oed o'r Barri weithio'n rhy galed i ennill yr aur gan dreulio'r rhan fwyaf o'r ras ymhell ar y blaen cyn gorffen 12 eiliad cyn Andrew Hurd o Ganada a gafodd yr arian.

Llwyddodd hefyd i gipio'r fedal efydd yn y 400m dull rhydd ar noson agoriadol y Gemau ac roedd efydd hefyd i David Roberts yn y 100m dull rhydd i athletwyr ag anabledd.

Ac ychwanegodd Phelps fedal aur yn y gystadleuaeth reiffl 50m ar orwedd at y fedal efydd a gafodd ynghyd â Gruff Morgan yn yr un gystadleuaeth i barau.

Siom ar y trac i Gymru

Ond Gemau siomedig tu hwnt oedd y rhain i athlewtyr Cymru wrth i'r dynion fethu â chasglu medal o unrhyw liw am y tro cyntaf er 1950 pan orffennodd yr unig aelod o dîm athletau Cymru, T J H Richards, yn bumed yn y marathon.

Methodd cyn bencampwr 400m y Gymanwlad, Iwan Thomas, â theithio i Melbourne gan ddatgan nad oedd ddigon ffit i gystadlu.

Ac ar ddiwrnod agoriadol y gystadleuaeth athletau dioddefodd Christian Malcolm rwyg i linyn ei âr tra'n cystadlu yn rowndiau rhagbrofol y 100m a bu'n rhaid iddo dynnu allan o'r 200m a thîm cyfnewid y 4x400m.

Methodd Gareth Warburton â chamu ymlaen o'i rownd ragbrofol o'r 400m a methodd Matt Elias a chyrraedd rownd derfynol y 400m dros y clwydi, pedair blynedd wedi iddo gipio'r fedal arian.

Ond roedd un llinyn arian wrth i'r bachgen ifanc, Rhys Williams, sefydlu record Gymreig yn rownd derfynol y 400m dros y clwydi tra'n gorffen yn bedwerydd a phrofi ei fod yn un i'w wylio yn y dyfodol.

Ond wedi anafu yn ystod y rownd derfynol, bu'n rhaid i Williams dynnu yn ôl o'r ras gyfnewid 4x400m, gan adael Cymru heb ddigon o athletwyr i gystadlu yn y rowndiau rhagbrofol.

Er methiant y dynion, llwyddodd y merched i gasglu dwy fedal gyda Hayley Tullett yn drydydd yn y 1500m a Julie Crane yn ennill medal arian annisgwyl yn y naid uchel..

Bu'r rhain yn Gemau cymharol lwyddiannus i dîm bocsio Cymru hefyd wrth i bedwar o'r saith aelod gyrraedd y rowndiau cynderfynol.

Arian o'r diwedd i Evans Y capten, Kevin Evans o Gaerfyrddin, oedd yr unig un o'r pedwar i gyrraedd y rownd derfynol, lle collodd yn erbyn David Price o Loegr yn yr adran go-drwm cyn cyhoeddi ei fod yn ymddeol o'r gamp.

> Evans i ymddeol ag arian

A bu'n rhaid i Mo Nasir (is-bryf), Darren Edwrads (plu) a Jamie Crees (is-welter) fodloni ar fedalau efydd i sicrhau eu gemau gorau ers Caeredin ym 1986.

Llwyddodd Robert Weale a Betty Morgan i gyrraedd rowndiau terfynol senglau'r bowls ond bu'n rhaid i'r ddau fodloni ar fedalau arian, ond roedd siom i holl dimau bowls Cymru.

Yr oedd medal arian i David Eaton hefyd, wedi'r gŵr sy'n byw erbyn hyn yn Los Angeles, orffen yn ail yng nghystadleuaeth gymnasteg y bar llorweddol.

Ac ar ddiwrnod olaf y Gemau cafwyd perfformiad arwrol gan Nicole Cooke wrth iddi gipio medal efydd yn y ras feicio ar y ffordd er iddi orfod cystadlu yn erbyn timau Awstralia, Seland Newydd a Lloegr heb unrhyw gymorth.

> Cooke wrth ei bodd ag efydd

Daeth ail efydd i Gymru yn y gystadleuaeth feicio wedi i Geraint Thomas ddod yn drydydd yn y ras bwyntiau dros 40km yn y feledrom ar ail ddiwrnod y cystadlu.

Mae'r 19 medal yn cymharu'n ffafriol iawn â'r 15 a gafwyd yn Kuala Lumpur ym 1998 ac o gofio fod David Davies, Nicole Cooke, Geraint Thomas a Rhys Williams yn gymharol ifanc, gallwn edrych ymlaen yn obeithiol at Gemau Delhi yn 2010.

chwaraeon
Hanes y Gemau
 
Medalau Cymru
 
Amserlen
 


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy