BBC HomeExplore the BBC

GWENER
25ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 26 Mawrth 2006
Gemau'r Gymanwlad ar ben

Daeth Gemau'r Gymanwlad i ben ddydd Sul wedi 11 diwrnod o gystadlu gyda seremoni gofiadwy ym Maes Criced Melbourne.

Roedd Prif Weinidog Prydain, Tony Blair, ymysg y rhai oedd yn bresennol ar gyfer y seremoni i gloi'r Gemau.

Cafodd baner Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad ei gyflwyno i Suresh Kalmadi, cadeirydd y pwyllgor sy'n trefnu Gemau 2010 fydd yn cael ei chynnal yn Delhi Newydd, India.

Dywedodd cadeirydd Melbourne 2006, Ron Walker, fod y 18fed gemau wedi bod yn llwyddiant.

Michaela Breeze, enillodd fedal aur cyntaf Cymru ym Melbourne yn y codi pwysau, gariodd y Ddraig Goch wrth i'r cystadleuwyr ddod ynghyd ar gyfer y diweddglo.

Breeze, ynghyd a'r nofiwr David Davies a'r saethwr David Phelps, enillodd dair medal aur i Gymru ym Melbourne.

Gorffennodd Cymru yn ddegfed yn nhabl cyfanswm y medalau gyda chyfanswm o 19 medal - o fewn y targed o 15-20 yr osodwyd cyn y Gemau.

> Tabl y medalau

BEICIO

Ar ddiwrnod olaf y cystadlu methodd Nicole Cooke ag amddiffyn ei choron yn y ras feicio ar y ffordd wrth i Natalie Bates o Awstralia gipio'r fedal aur ar strydoedd Melbourne.

Oenone Wood gafodd yr arian wrth i Cooke orfod fodloni ar fedal efydd.

Roedd Cooke o dan anfantais enfawr fel yr unig aelod o dîm Cymru yn y ras 100km.

> Cooke yn colli ei choron

TENIS BWRDD

Methodd Adam Robertson, â sicrhau medal efydd yng nghystadleuaeth senglau'r tenis bwrdd wedi iddo golli yn erbyn Segun Toriola o Nigeria.

> Siom i Adam Robertson

chwaraeon
Hanes y Gemau
 
Medalau Cymru
 
Amserlen
 


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy