BBC HomeExplore the BBC

IAU
7fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 25 Mawrth 2006
Cooke yn colli ei choron

Methodd Nicole Cooke ag amddiffyn ei choron yn y ras feicio ar y ffordd wrth i Natalie Bates o Awstralia gipio'r fedal aur ar strydoedd Melbourne

Oenone Wood gafodd yr arian wrth i Cooke orfod fodloni ar fedal efydd.

Ond roedd y Gymraes yn hapus iawn â'i medal gan ddweud ei fod "cystal ag aur".

Meddai: "Rwyf wrth fy modd. Roedd rhaid i mi wneud pob penderfyniad - i ddilyn pob ymosodiad gan dîm Awstralia a blino, neu cadw fy hun yn y peleton.

"Roedd chwech o Ganada a chwech o Seland Newydd ac ni chafodd yr un ohonynyt fedal, ond fi oedd yr unig Gymraes a llwyddais i gipio efydd.

"Mae'n bopeth gallwn fod wedi obeithio a roeddwn wedi gwneud popeth o fewn fy ngallu."

Roedd Cooke o dan anfantais enfawr fel yr unig aelod o dîm Cymru yn y ras 100km.

Ac wedi pum beicwraig o Loegr, Awstralia, Malaysia, Seland Newydd a Chanada dorri'n rhydd ar y lap agoriadol, roedd yn anodd i'r Gymraes geisio dianc o'r peleton.

Ymosododd Bates gyda dwy lap yn weddill gan agor bwlch o funud a mwy ar y bedair arall er mwyn cipio'r fedal aur.

Cafwyd ras dactegol wych gan y prif dimau gan gadw Cooke o fewn y peleton a chaniatau'r pump ar y blaen i agor bwlch o bron i bedwar munud.

Ond llwyddodd y peleton i sgubo pawb ond Bates yn ôl i'r grŵp ar y lap olaf un.

Yna, gyda 3km yn weddill, safodd Cooke ar y pedalau ac ymosod wrth i'r peleton esgyn un o'r elltydd mwyaf serth ar y cwrs.

Roedd yr ymosodiad yn ddigon i rwygo'r peleton gan adael chwe beicwraig i frwydro am y fedal arian ac efydd.

Ceisiodd Kate Bates, chwaer Natalie, i dorri'n rhydd, ond ymatebodd Wood a Cooke yn syth.

Ac wrth wibio am y llinell derfyn, llwyddodd Wood i aros ar y blaen i gipio'r arian tra bo rhaid i Cooke fodloni ar yr efydd.

chwaraeon
Hanes y Gemau
 
Medalau Cymru
 
Amserlen
 


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy