|
Gorffennodd y gŵr o Bontypridd yn gydradd 53 ym Mhencampwriaeth Agored Hong Kong gan hawlio'r lle olaf yn Dubai ar draul Darren Clarke. Fe fydd Donaldson yn ymuno gyda'i gyd Gymro Bradley Dredge yn Dubai sydd yn ddiweddglo i'r tymor ar gylchdaith Ewrop a sy'n dechrau dydd Iau. Mae Donaldson wedi sicrhau enillion o £485,000 y tymor hwn - ei dymor gorau ers troi'r broffesiynol yn 2001. Gorffennodd yn ail tu ôl i'r Archentwr Ricardo Gonzalez ym Meistri SAS yn Sweden, roedd yn bedwerydd ym Mhencampriaeth Agored Portiwgal ac yn bumed ym Mhencampwriaeth KLM yn yr Iseldiroedd.
 |