BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
26ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Golff

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 13 Hydref 2009
Monty yn ystyried rôl i Price

Mae capten tîm Ewrop, Colin Montgomerie, wedi awgrymu y bydd y Cymro Phil Price yn cael ei ddewis fel un o'r is-gapteiniaid ar gyfer y Cwpan Ryder y flwyddyn nesaf.

Phil Price
Dywed Montgomerie ei fod yn awyddus i gael rhywun wrth ei ochr yn y gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau sy'n gyfarwydd iawn gyda chwrs y Celtic Manor, ger Casnewydd.

Mae Price, chwaraeodd rhan flaenllaw yn y gystadleuaeth yn y Belfry yn 2002, yn aelod o'r cwrs 2010 ac yn byw yn lleol.

A gan fod Ian Woosnam, y capten buddugol yn 2006, eisoes wedi dweud bod ganddo ddim diddordeb i fod yn is-gapten i Montgomerie, yna Price yw' ffefryn i gael ei ddewis.

gwylio Mony a Pavin yn chwarae'r cwrs 2010

"Bydd 65 i 70 y cant o'r dorf yma y flwyddyn nesaf yn Gymry, felly mae'n iawn i mi annog rhywun o'r wlad i fod yn is-gapten i mi," meddai Montgomerie ar ôl chwarae naw twll ar gwrs y 2010 yn erbyn capten yr Unol Daleithiau, Corey Pavin.

"'Da ni gyd yn gwybod pa mor dda y chwaraeodd Phil yn y Cwpan Ryder yn 2002, ac ar y diwrnod olaf yn enwedig. Mae o yn un o'r bobl dwi'n eu hystyried i fod yn gynorthwyydd i mi.

"Hynny ydi, os nad yw'n perfformio'n ddigon da i ennill lle yn y tîm ei hun fel chwaraewr."

Mewn gwirionedd, prin iawn yw gobeithio Price i sicrhau lle yn y tîm. Mae'r chwaraewr 42 mlwydd oed yn rhif 976 ar restr detholion y byd, ac mae bron i dair blynedd wedi mynd heibio iddo orffen ymysg y 10 uchaf mewn cystadleuaeth.

Ond dywedodd Price ei fod yn hyderus y byddai'n gallu chwarae rôl effeithiol fel is-gapten ym mis Hydref y flwyddyn nesaf.

"Dwi'n meddwl y byddwn i'n gallu cynnig rhywbeth o werth i Montgomerie yn ystod yr wythnos," meddai Price.

Mae'r Gwyddel Paul McGinley a Thomas Bjorn o Ddenmarc wedi cael eu crybwyll fel dau sy'n sicr o gynorthwyo Montgomerie.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy