BBC HomeExplore the BBC

IAU
24ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Golff

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 01 Hydref 2009
Monty yn edrych ymlaen i'r Ryder

Mae'r gwaith caled wedi dechrau'n barod ar gyfer y Cwpan Ryder yn y Celtic Manor medd capten Ewrop Colin Montgomerie.

Colin Montgomerie
Ymhen deuddeg mis fe fydd golffwyr Ewrop yn herio'r Unol Daleithiau dros dridiau ar y cwrs yng Nghasnewydd.

"Ry' ni o fewn blwyddyn ac mae hi'n anhygoel pa mor gyflym y bydd y flwyddyn yn pasio a 'dwi'n edrych ymlaen at bob eiliad," meddai Montgomerie.

Dywedodd Montgomerie mai trefnu cyfarpar a llety ar gyfer tîm Ewrop fu'n ei gadw'n brysur hyd yn hyn.

Ond yn awr fe fydd yn troi ei olygon at y chwaraewr hynny fydd yn cynrychioli Ewrop yn y Celtic Manor.

Fe fydd Montgomerie, a chapten yr Unol Daleithiau Corey Pavin, yn cyhoeddi eu timau erbyn diwedd Awst y flwyddyn nesaf.

Ac mae Montgomerie wedi dweud yr hoffai weld chwaraewyr Ewrop yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Golff Agored Cymru ar gwrs y Twenty Ten.

"Fe fyddai'n fuddiol iddynt i gystadlu... ac i ddangos i mi be alle nhw ei wneud ar gwrs y Cwpan Ryder," ychwanegodd Montgomerie.

Dywedodd Montgomerie yr hoffai weld Cymro yn sicrhau ei le yn nhîm Ewrop y flwyddyn nesaf.

Phil Price oedd y Cymro diwethaf i gynrychioli Ewrop a hynny yn 2002 pan oedd yn aelod o'r tîm enillodd yn y Belfry.

"Byddai'n bechod cael Cwpan Ryder yng Nghymru heb gynrychiolaeth o Gymru," meddai capten Ewrop.

"Dwi'n dymuno'n dda iddynt.. byddai'n wych cael Cymro yn aelod o'r tîm."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy