BBC HomeExplore the BBC

GWENER
25ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Golff

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 27 Medi 2009
Cymru drwodd i Gwpan Golff y Byd

Mae Cymru wedi sicrhau eu lle yng nghystadleuaeth Cwpan Golff y Byd a fydd yn cael ei chynnal yn Tsiena fis Tachwedd.

Jamie Donaldson
Bu'n wythnos dda i'r Cymry yn y gystadleuaeth ragbrofol yn Estonia gan orffen 17 ergyd yn well na'r safon.

Stephen Dodd, enillodd y gystadleuaeth gyda Bradley Dredge yn 2005, a Jamie Donaldson oedd cynrychiolwyr Cymru

Canada orffennodd y gystadleuaeth ar y brig, 19 ergyd yn well na'r safon gyda'r Alban hefyd yn sicrhau eu lle yn Tsiena.

Ni fu'n rhaid i Loegr ac Iwerddon ynghyd â 16 o wledydd eraill gymryd rhan yn y gystadleuaeth ragbrofol.

Roedd y gwledydd hynny eisoes yn sicr o'i lle yn Tsiena ar sail safleoedd eu prif chwaraewr ar restr detholion y byd.

Ian Poulter a Ross Fisher fydd yn cynrychioli Lloegr gyda Rory McIlroy a Graeme McDowell yn chwarae dros Iwerddon.

Fe fydd cystadleuaeth Cwpan y Byd yn cael ei chynnal ar gwrs Mission Hills rhwng 26 a 29 o Dachwedd.

Roedd Colin Montgomerie a Marc Warren yn fuddugol i'r Alban ar y cwrs yn Tsiena ddwy flynedd yn ôl.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy