BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
26ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Golff

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 20 Medi 2009
Woosnam yn agos at dlws arall

Mae Ian Woosnam o fewn cyrraedd i orffen ar frig rhestr enillion y Gylchdaith Ewropeaidd Hŷn am yr ail dymor yn olynol.

Ian Woosnam
Gorffennodd y Cymro yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth Agored Casa Serena yn y Weriniaeth Siec ddydd Sul wedi rownd olaf o 68 am gyfanswm o naw ergyd yn well na'r safon.

Roedd yr enillydd, Peter Mitchell o Loegr, ar gyfanswm o 13 ergyd yn well na'r safon.

Siec am €33,000 oedd gwobr Woosnam, sy'n golygu ei fod yn dychwelyd i'r brig ar restr yr enillion gyda chyfanswm o €161,619.

Sam Torrence sy'n ail ar €139,490 gyda dwy gystadleuaeth i fynd tan ddiwedd y tymor.

Yn y cyfamser, gwelwyd perfformiad disglair arall gan Becky Brewerton ar Gylchdaith y Merched.

Gorffennodd Brewerton yn drydydd ym Mhencampwriaeth Agored Ffrainc.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy