BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Golff

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 06 Medi 2009
Dredge yn ail ym Meistri Ewrop

Fe orffennodd y Cymro Bradley Dredge yn ail yng nghystadleuaeth Meistri Ewrop yn y Swistir gan ddod o fewn dwy ergyd i'r enillydd Alex Noren o Sweden.

Bradley Dredge

Roedd y Cymro yn pwyso trwy gydol y rownd olaf yn enwedig wrth droi pan suddodd eryr a thri byrdi mewn pum twll.

Ond er i Dredge fynd ar y blaen ar un cyfnod fe lwydodd Noren i gamu yn ôl i'r brig ar ôl iddo suddo o'r byncer ar y 15fed twll.

Fe fydd yr ail safle yn gymorth i Dredge wrth iddo gasglu pwyntiau gwerthfawr yn y gystadleuaeth gyntaf o'r tymor i gyfrif tuag at y safleoedd yn nhîm Cwpan Ryder Ewrop.

"Mae hi wedi bod yn sbel ers i mi fod ymysg y ceffylau blaen mewn cystadleuaeth fel roedd hi'n braf bod yn ei chanol hi," dywedodd Dredge.

"Nes i berfformio'n dda. Mi faswn i'n gallu meddwl y dylwn i wedi neud ambell i beth yn well ond dwi'n ddigon bodlon. Mae ail yn well na thrydydd fel dwi wedi bod yn ei ddweud."

Roedd hi'n bythefnos llwyddiannus i Gymro arall hefyd wrth i Rhys Davies ennill cystadleuaeth ar Gylchdaith Her Ewrop.

Sicrhaodd Davies fuddugoliaeth o un ergyd yn y Fred Olsen Challenge de Espana diolch i rownd olaf o 67.

Mae'r fuddugoliaeth, sef ei ail o'r tymor ar y Gylchdaith, yn ei godi i'r chweched safle ar y rhestr enillion. Mae Cymro arall, Sion Bebb, yn yr unfed safle ar bymtheg.

Bydd y 20 uchaf yn ennill yr hawl i chwarae ar brif Gylchdaith Ewrop y tymor nesaf.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy