BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Golff

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 17 Gorffennaf 2009
Pencampwriaeth ar ben i Davies

Mae'r Bencampwriaeth Agored ar ben i'r Cymro Rhys Davies wedi iddo orffen saith ergyd yn waeth na'r safon yn Turnberry.

Rhys Davies

Dywed Davies ei fod yn siomedig na fydd yn un o'r rhai fydd yn cystadlu ar benwythnos olaf y Bencampwriaeth.

"Yr oedd gen i ddisgwyliadau uchel cyn dod yma, a doeddwn i ddim yma i gymryd rhan yn unig - yr oeddwn eisiau cystadlu," meddai Davies.

Ychwanegodd y gŵr 24 oed o Ben-y-bont ei fod yn benderfynol o ddychwelyd i'r Open yn y dyfodol.

"Byddwn yn treulio amser i asesu fy mherfformiad, ond 'dwi'n gwybod bod fy ngem yn ddigon cryf ar y lefel hon ac y byddwn yn gwella."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy