Ond bydd modd iddo sicrhau ei le yn Augusta os yw'n dychwelyd i 50 uchaf y byd wythnos cyn y gystadleuaeth neu'n ennill ar gylchdaith yr Unol Daleithiau.
Chwaraeodd Dredge yn y Meistri am y tro cyntaf eleni, gan orffen yn gydradd 44.
Fel cyn enillydd y Meistri, mae Ian Woosnam yn sicr o'i le yn Augusta.
Bydd Woosnam yn gobeithio y bydd yn holliach ar gyfer y gystadleuaeth.
Bu'n rhaid iddo dynnu allan o'r Meistri hanner ffordd drwy'r gystadleuaeth y llynedd oherwydd anaf i'w gefn.
 |